
Mae Civitas Cymru, a sefydlwyd yn Ionawr 2003, yn ymgynghori ar Faterion Cyhoeddus a Chyfathrebu Strategol. Wrth roi o'n cyngor pwyllog a phrofiadol, rydym yn cynorthwyo'n cleientiaid, boed unigolion neu gyrff, i gyrraedd eu nod yng Nghymru.
Mae'n cyngor ethigol yn eu cyfeirio sut i weithredu yn ogystal â sut i gyfathrebu, a chyflwyno eu hachos mewn modd sy'n darbwyllo, boed yn y cyfryngau, neu fforymau gwleidyddol, cyhoeddus neu breifat.
Mae ein cyngor gwybodus fel cefn da - yn gryf ac o'r golwg - ac yn seiliedig ar ddealltwriaeth gynhwysfawr o Gymru, ei chymdeithas a'i sefydliadau.
Mae gennym arbenigedd a hir-brofiad o gyfathrebu strategol - sydd yn trawsnewid agweddau a symbylu pobl i ymateb.
Trwy gymorth ein gwasanaethau mae ein cleientiaid wedi llwyddo i gyrraedd nodau tra-phwysig yn ddiweddar, gan gynnwys: ennill cefnogaeth y llywodraeth, ymgynghori'n effeithiol â'r cyhoedd ac ennill sylw yn y cyfryngau led led y byd.
Yn ogystal â’n cynghorion, rydym yn cynnig gwasanaethau cysylltiadau â'r wasg ac â'r cyhoedd, monitro'r Cynulliad a San Steffan, dadansoddi polisi, delio â materion cyfathrebu dyrys, adroddiadau ar effeithiolrwydd eich cyfathrebu, materion sy'n gofyn am fedrau a dealltwriaeth o'r iaith a’r gymdeithas Gymraeg, materion cymunedol, ac ati.
Ymddiheuriwn na fydd yr holl destun Cymraeg yn cael ei osod nes bod y fersiwn Saesneg yn orffenedig.

Cysyllter....
Nesaf...(Amdanom) [nid yw'n weithredol eto]
|